Amdanom ni

Gwybodaeth defnyddiol am y Star

Rydym yn Gwmni Buddiannau Cymunedol Cofrestredig dielw sy’n ymroddedig i ddod â digwyddiadau celfyddydol a cherddoriaeth cyffrous i ganolbarth Cymru.

Cyflawnir hyn trwy waith caled ein cyfarwyddwyr, staff a gwirfoddolwyr gwych.

Mae eich cefnogaeth yn golygu ein bod yn gallu parhau i wella’r adeilad a’r cyfleusterau.

Bar y Star

Mae bar ar gael yn ystod ein digwyddiadau! Rydym yn gwerthu ystod eang o ddiodydd alcoholig a di-alcohol, diodydd meddal, diodydd poeth, byrbrydau, ac efallai tamed o gacen blasus i dynnu dŵr i’ch danedd!

Toiledau

Mae portaloo ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o adeiladu estyniad i’r bloc toiledau. Tra’n bod ni’n gweithio ar y cynlluniau, gallwch helpu trwy fynychu ein digwyddiadau, prynu diodydd, neu gyfrannu at ein cronfa toiledau

Prisau Tocynnau

Rydym yn ymwybodol bod argyfwng costau byw ar hyn o bryd, ac yn casáu’r syniad bod pobl yn colli allan ar ein digwyddiadau oherwydd diffyg arian. Felly yn y Star, rydyn ni’n gweithredu system docynnau teg, os ydych chi’n teimlo’r straen gallwch chi ddod i ymuno yn yr hwyl o hyd. Mae gennym gyfradd îs, cyfradd canolig, a haen uwch ar gyfer y rhai sy’n barod i roi ychydig yn ychwanegol i gefnogi’r prosiect.

Gwirfoddolwch

Eisiau bod yn aelod o’r tîm? Ni fyddai ein gwaith yn bosibl heb cyfraniad ein gwirfoddolwyr anhygoel. Mae llawer o gyfleoedd, o flaen a tu ôl i’r lleni, felly cofrestrwch eich diddordeb a chymerwch ran!

Rhaglen

Hoffech chi chwarae neu ymarfer, neu syniad am rhywbeth yr hoffech ei weld yn y Star, cysylltwch â ni drwy starofthesea.wales@gmail.com